Rapsgaliwn ar y chwith
Yr actor Rhodri Meilir, y comedïwr Rhod Gilbert a’r newyddiadurwr Jeremy Bowen sydd ymysg y wynebau amlwg fydd yn derbyn anrhydeddau gan Brifysgol Aberystwyth eleni.
Mae’r Brifysgol am urddo 11 o Gymrodyr sydd â “chysylltiad agos â Phrifysgol Aberystwyth neu sydd wedi gwneud cyfraniad mawr i fywyd proffesiynol neu gyhoeddus yng Nghymru”.
Yn ystod y seremonïau graddio sy’n cael eu cynnal yr wythnos nesa, bydd cyn-fyfyrwyr o’r brifysgol hefyd yn dychwelyd i’r dref, gan gynnwys Y Farwnes Kay Andrews, Dirprwy Lefarydd Tŷ’r Arglwyddi a’r gwyddonydd Dr John Sheehy.
Gweddill y Cymrodyr eleni yw:
- D. Geraint Lewis, awdur, cyn Llyfrgellydd Addysg a Phlant Dyfed a chyn-gyfarwyddwr Addysg Cynorthwyol gyda Chyngor Sir Ceredigion.
- Yr Athro John Harries, Prif Ymgynghorydd Gwyddonol cyntaf Cymru a Ffisegydd atmosfferig o fri.
- Syr Michael Moritz, cyfalafwr menter a dyngarwr sy’n wreiddiol o Gaerdydd
- Ed Thomas, dramodydd, cyfarwyddwr, cynhyrchydd; un o sylfaenwyr a chyfarwyddwr creadigol ar y cwmni cynhyrchu Fiction Factory.
- Yr Athro Bonnie Buntain, Athro Ddeon Cynorthwyol Iechyd Cyhoeddus ym Mhrifysgol Calgary yng Nghanada a chyn Brif Filfeddyg Iechyd Cyhoeddus yng Ngwasanaeth Diogelwch Bwyd ac Archwilio i Adran Amaeth yr Unol Daleithiau.
- Brian Jones, ffermwr, entrepreneur, a sefydlydd a Rheolwr Gyfarwyddwr cwmni Bwydydd Castell Howell Cyf.
‘Casgliad diddorol’
Dywedodd Yr Athro April McMahon, Is-Ganghellor Prifysgol Aberystwyth ei bod “wrth ei bodd” fod casgliad mor “nodedig a diddorol” o bobol wedi derbyn gwahoddiad gan y Brifysgol:
“Bob blwyddyn rydym yn anrhydeddu’r hyn a gyflawnwyd gan unigolion sydd wedi rhagori yn eu meysydd penodol ac wedi gwneud cyfraniad sylweddol i Aberystwyth, i Gymru a thu hwnt.
“Rwyf wrth fy modd fod casgliad mor nodedig a diddorol o Gymrodyr newydd wedi derbyn ein gwahoddiad. Bydd ein myfyrwyr a’n staff yn falch o gael rhannu llwyfan gyda hwy yn ystod Wythnos Graddio.”