Mae dyn o Gwmbrân wnaeth lofruddio ei gyn-wraig drwy ei saethu yn ei chefn wedi ei ddedfrydu i garchar am oes.

Cafodd Christopher Parry, 50, ei ganfod yn euog o lofruddio Caroline Parry ddydd Mawrth, er iddo honni nad oedd wedi bwriadu ei lladd.

Cafodd y ddynes 46 oed, oedd yn fam i ddau o blant, ei saethu yn ei chefn tu allan i’w chartref yng Nghasnewydd ar 8 Awst y llynedd. Roedd Christopher Parry hefyd wedi troi y gwn arno’i hun, ond bu iddo oroesi  gydag anafiadau difrifol.

Clywodd y llys fod gan Christopher Parry hanes o salwch meddwl ac nad oedd yn gallu derbyn bod ei wraig wedi gorffen eu priodas ar ôl 27 mlynedd.