Fe gafodd merch 14 oed ei llusgo i goedwig a’i threisio ar orchymyn cyngor pentref Jharkhand mewn ardal anghysbell o ddwyrain India, a hynny fel ffordd o ddial am ymosodiad rhywiol honedig gan ei brawd.

Dyna mae’r heddlu a pherthnasau’r ferch wedi ei gasglu wedi i dri dyn gael eu harestio, gan gynnwys un dyn sy’n ŵr i’r ddynes yr honnir i frawd y ferch 14 oed ymosod arni.

Dywedodd mam y ferch wrth sianel newyddion CNN-IBN ei bod wedi erfyn ar y cyngor i wneud tro pedol wedi iddyn nhw orchymyn y treisio, ond nad oedd neb yn fodlon gwrando arni.