Mae ffotograffydd annibynnol o Aberystwyth yn dathlu gwerthu gwerth $250,000 o luniau i gylchgronau a phapurau newydd cenedlaethol ledled y byd.
Bu Keith Morris yn tynnu lluniau o Gymru ers 30 mlynedd, a thrwy asiantaeth ffotograffiaeth Alamy, mae wedi gweld ei luniau yn ymddangos mewn llu o gyhoeddiadau – o’r Telegraph i’r Daily Star, o Golwg i’r New York Times.
“Gwaith caled a gwaith cyson” sydd wrth wraidd ei lwyddiant, yn ôl Keith Morris:
“Dw i’n gweithio i gleientiaid fel Golwg, ond dw i hefyd yn gweithio ar liwt fy hunan, i dynnu lluniau sy’n dangos rhywbeth am gymdeithas, pobol, diwylliant a diwydiant.
“Dyna gryfder yr asiantaeth Alamy i fi, y ffaith mod i’n gallu gwerthu lluniau o fywyd bob dydd.”
Aberystwyth
Mae rhai yn credu fod rhaid mynd i leoliad egsotig i gael y lluniau gorau, yn ôl Keith Morris, ond dyw’r ffotograffydd ddim yn cytuno.
“Dw i ddim yn teithio. Dw i heb fod dramor ers 1987, dw i heb fod tu fas i Gymru ers pum mlynedd, dw i bron byth yn teithio tu fas i Geredigion ac mae 95% o’r gwaith dw i’n ei werthu trwy Alamy wedi cael eu tynnu ar strydoedd Aberystwyth.
“Does dim rhaid mynd i lefydd tramor i gael lluniau sy’n gwerthu ar draws y byd, mae trysorfa o luniau ar eich stepen drws chi.”
Archif hanesyddol
Ychwanegodd Keith Morris ei fod yn teimlo ei bod yn bwysig cadw cofnod o hanes trwy gyfrwng lluniau.
“Y digwyddiad mwyaf diweddar yw’r stormydd mawr ddaeth dros y gaeaf – fe wnaeth y lluniau hynny ymddangos mewn papurau ledled y byd. Dyna oedd y peth mwyaf i ddigwydd i mi o ran gwerthiant lluniau masnachol.
“Dw i’n defnyddio twitter a facebook ac fel arall dw i jyst yn mynd mas hefo camera a gweld beth sydd na ar gael.
“Dw i’n creu archif hanesyddol yn ogystal ag adnodd masnachol.”