Mae Undeb Cenedlaethol Athrawon Cymru (UCAC) yn cyhuddo Llywodraeth Cymru o beidio ymgynghori na hysbysu rhanddeiliaid cyn penderfynu diffinio ‘ysgol fach’ fel “ysgol â llai na 91 o ddisgyblion”.

Ond mae’r Llywodraeth wedi synnu gyda haeriad UCAC, ac yn mynnu bod yr undeb athrawon wedi cael llais yn y trafodaethau.

O dan y diffiniad newydd, byddai 70% o ysgolion cynradd Ceredigion a 62% o ysgolion cynradd Gwynedd yn cael eu cyfri’n ysgolion bach – ac mae UCAC yn pryderu am ddyfodol yr ysgolion hyn.

Yn ôl yr undeb, mae’r diffiniad yn sail i gynghorau sir ffederaleiddio ysgolion bach heb ymgynghori â disgyblion a’u rhieni, staff yr ysgol a chyrff sy’n cynrychioli staff yr ysgol.

Mae’r undeb yn cwestiynu o ble cafwyd y ffigwr 91 disgybl, gan ddweud fod y diffiniad yn ymddangos yn “fympwyol”.

Dyfodol

Dywedodd Rebecca Williams, Swyddog Polisi UCAC:

“Roedd perffaith hawl gan Lywodraeth Cymru i wneud gorchymyn sy’n diffinio ‘ysgol fach’. Ond rydym yn gresynu’n fawr at y ffaith y gwnaed y gorchymyn hwn heb drafod nac ymgynghori.

“Mae’r cwestiwn yn codi: o ble ddaeth y ffigwr o 91 disgybl? Mae Deddf arall gan Lywodraeth Cymru’n diffinio ysgol fach fel ysgol â llai na 10 o ddisgyblion.

“Heb drafodaeth, mae’r ffigwr yn ymddangos yn fympwyol. Pryderwn am effeithiau’r gorchymyn ar ddyfodol rhai o ysgolion Cymru.”

Ond meddai’r Llywodraeth wrth golwg360 mewn datganiad:

“Cafodd ffigwr y disgyblion fyddai’n golygu y gelwir ysgol yn ysgol fach ei benderfynu yn dilyn ymgynghoriad a ddigwyddod rhwng mis Ionawr a mis Mawrth 2013.

“Fe wnaeth UCAC ymateb i’r ymgynghoriad, felly mae’n ddryslyd iawn eu bod nhw’n dweud nad ydym wedi gofyn am eu hymateb.”

Proses graffu

Yn ôl Rebecca Williams, mae’r sefyllfa hefyd wedi codi cwestiynau am broses graffu’r Cynulliad.

“Oni ddylai fod penderfyniad o’r fath fod wedi cael ei graffu gan y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg? Ac oni ddylai fod ymgynghori gyda rhanddeiliaid yn allweddol?”