Mae Ombwdsmon Cymru wedi dyfarnu bod Cyngor Cymuned Llansannan wedi torri ei gynllun iaith drwy beidio â darparu cyfieithu Cymraeg i Saesneg mewn cyfarfodydd.

Fe wnaed cwyn am y cyngor i’r Ombwdsmon gan unigolyn, sy’n cael ei alw yn ‘Mr Z’ yn adroddiad yr Ombwdsman.

Roedd ‘Mr Z’ yn cwyno bod y cyngor wedi rhoi’r gorau i gynnig gwasanaeth cyfieithu a’i fod wedi ei atal rhag mynychu cyfarfodydd misol.

Yn ôl tystiolaeth y cyngor i’r Ombwdsmon, roedd ganddyn nhw bryderon ynglŷn ag ymddygiad ‘Mr Z’ ac yn teimlo dan “fygythiad” yn ei bresenoldeb, ac felly fe benderfynwyd peidio gadael iddo fynychu eu cyfarfodydd.

Mae Cyngor Cymuned Llansannan, yn Sir Conwy, yn gwneud ei waith drwy gyfrwng y Gymraeg yn unig, gyda phob un o’r cynghorwyr yn medru’r iaith – ond nid yw ‘Mr Z’, sydd ddim yn gynghorydd, yn siarad Cymraeg.

Dywedodd y cyngor eu bod yn medru darparu gwasanaeth cyfieithu ar adegau pan mae aelodau di-Gymraeg o’r cyhoedd eisiau mynychu cyfarfodydd, ond nad oedden nhw wedi bod yn fodlon gwneud hynny i ‘Mr Z’.

Anghysondeb dwyieithrwydd

Wrth ymateb i’r achos, mynegodd yr academydd a’r ymgyrchydd iaith Dr Simon Brooks bryder fod penderfyniad yr Ombwdsmon yn gosod cynsail peryglus i gynghorau a’r Gymraeg.

“Fy mhryder i yw’n bod ni’n cael sefyllfa ble mae dyletswydd ar gyngor cymuned yng Nghymru i gyfieithu i unrhyw un sy’n troi fyny, ac eto nad ydyn ni’n gosod yr un dyletswyddau ar gynghorau Saesneg,” meddai.

“Gallai hyn agor y drws i osod rhwymedigaethau annheg, ac fe fyddai’n llyncu cyllideb oddi wrth gynghorau fel hyn os yw pobl sydd ddim hyd yn oed yn aelod o’r cyngor yn mynnu – efallai y bydd rhai jyst yn penderfynu gwneud pethau drwy’r Saesneg.

“Mae dwyieithrwydd wastad yn cael ei ddehongli mewn ffordd sydd ddim yn trin y Gymraeg a’r Saesneg yn gyfartal.”

Roedd yr academydd hefyd yn feirniadol o’r Ombwdsmon am gyhoeddi’r adroddiad i’w ymchwiliad i Gyngor Cymuned Llansannan yn uniaith Saesneg.

“Mae’n sefyllfa ryfeddol ble mae Ombwdsmon, sy’n dweud wrth gyngor plwyf bach eu bod nhw’n gorfod darparu’r adnoddau costus yma, ddim yn glynu at unrhyw fath o bolisi iaith eu hunain.”

Beirniadaeth yr Ombwdsmon

Ond yn ôl yr Ombwdsmon – a hynny mewn adroddiad uniaith Saesneg – roedd yna gamweinyddu yn y modd penderfynodd y cyngor i atal ‘Mr Z’ rhag mynychu cyfarfodydd.

Yn ôl yr Ombwdsman doedd ymddygiad ‘Mr Z’ y tu allan i gyfarfodydd ddim yn sail i’w atal rhag mynychu cyfarfodydd y cyngor cymuned.

Dywedodd adroddiad yr Ombwdsmon hefyd nad oedd wedi’i ddarbwyllo bod y cyngor wedi arddangos sut y gallai sicrhau bod y cyhoedd di-Gymraeg yn medru cyfrannu at ei waith democrataidd.

Roedd hyn, meddai’r Ombwdsman, yn groes i Gynllun Iaith y cyngor a oedd yn addo trin y ddwy iaith yn gyfartal.

Mae’r Ombwdsman yn galw  ar y cyngor i gynnig gwasanaeth cyfieithu i bobol sydd ddim yn deall Cymraeg.

Hefyd galwodd yr Ombwdsmon ar y cyngor i ymddiheuro i ‘Mr Z’ am yr anghyfiawnder o’i atal rhag  mynychu’r cyfarfodydd misol.

Fodd bynnag, mae gan y cyngor berffaith hawl i barhau â’i waith drwy gyfrwng y Gymraeg yn unig.

Comisiynydd y Gymraeg yn falch

Wrth ymateb i’r adroddiad, croesawodd Comisiynydd y Gymraeg Meri Huws y ffaith fod yr Ombwdsmon yn cydnabod hawl Cyngor Cymuned Llansannan i barhau i gynnal cyfarfodydd yn yr iaith Gymraeg.

“Mae gan yr iaith Gymraeg statws swyddogol yng Nghymru. Caiff y statws yma ei gadarnhau mewn deddfwriaeth, ac mae i’w weld a’i glywed ym mhob agwedd ar fywyd ym mhob cwr o Gymru,” meddai Comisiynydd y Gymraeg.

“Un o’r amryw ffyrdd y caiff statws swyddogol y Gymraeg ei gwireddu a’i gweithredu yw ei defnydd  ar bob lefel o lywodraeth – o’r Senedd i awdurdodau lleol i gynghorau cymuned.

“Mae’r adroddiad a gyhoeddwyd gan yr Ombwdsmon heddiw yn cydnabod bod gan gynghorau cymuned pob hawl yn ôl y gyfraith i benderfynu cynnal eu busnes yn Gymraeg.

“Mae’r Ombwdsmon wedi gwneud argymhellion er mwyn rhoi eglurder pellach i’r Cyngor ynglŷn â sut i gynnal trafodion yn Gymraeg tra’n bod yn hygyrch a chynhwysol yr un pryd.”

Ymateb y Cyngor Cymuned

Mewn datganiad, dywedodd Cyngor Cymuned Llansannan wrth golwg360 eu bod yn derbyn y canfyddiadau yn adroddiad yr Ombwdsman.

“Mae’r Cyngor Cymuned wedi ymrwymo’n llwyr i wasanaethu’r gymuned yn effeithiol ac i sicrhau bod aelodau’r gymuned yn gallu cyfrannu’n llawn,” meddai llefarydd ar ran y cyngor.

“Mae Cyngor Cymuned Llansannan yn gwneud ei gwaith yn y Gymraeg ac yn gwneud pob ymdrech i helpu pobl di-Gymraeg sydd yn mynychu cyfarfodydd i ddeall y cynnwys ac i gyfrannu.

“Wrth ystyried adroddiad yr Ombwdsmon mae’r Cyngor Cymuned yn bwriadu gofyn am y cyngor a chymorth priodol, gan gynnwys gan Gomisinydd y Gymraeg.”

Unigolyn trafferthus

Yn y datganiad, fe gyfeiriodd y cyngor hefyd yn anuniongyrchol at ‘Mr Z’, gan awgrymu mai unigolyn trafferthus ydoedd a oedd wedi bod yn ymddwyn yn sarhaus tuag at staff y cyngor, ac mai dyna pam na wnaethon nhw gydweithio ag ef.

“Mae gweithredoedd annerbyniol gan unigolion gan gynnwys cwynion trallodus yn ogystal ag ymddygiad ymosodol a sarhaus tuag at staff ac aelodau yn gallu creu trafferthion mewn nifer o ffyrdd,” meddai datganiad y cyngor.

“Mae hyn yn cynnwys gwastraffu adnoddau gwerthfawr gan gynnwys yn ariannol yn ogystal â chreu gofid i’r unigolion gafodd eu targedu. Mae’r Cyngor Cymuned yn credu fod ganddi ddyletswydd i’r gymuned i fynd i’r afael â gweithredoedd felly.

“Mae’r Cyngor Cymuned wedi cymryd camau i ddelio â gweithredoedd un unigolyn yn y gymuned ac mae hyn wedi cynnwys Heddlu Gogledd Cymru, gan arwain at erlyniad llwyddiannus am aflonyddwch, yn ogystal â chyfyngu cyswllt â’r unigolyn dan sylw.”

Pwysleisiodd Cyngor Cymuned Llansannan fod gorfod delio gydag achosion o’r fath yn amharu’n fawr ar waith cyngor bach o’u maint hwy, ac y gallai annog pobl i beidio â sefyll i fod yn aelodau neu glerciaid.

Dywedodd y cyngor eu bod yn gobeithio galw am newid yn y ddeddfwriaeth yng Nghymru i alluogi awdurdodau bychain fel cynghorau tref a phlwyfi i ddelio’n fwy effeithiol ag unigolion sydd yn amharu ar effeithiolrwydd gwaith y cynghorau.

Gallwch ddarllen adroddiad llawn yr Ombwdsmon yma.