Peredur ap Gwynedd ar ei feic
Mae un o sylwebwyr seiclo S4C wedi datgelu bod seiclo wedi ei helpu i stopio smocio, ac yn credu y dylai llywodraethau Cymru a’r Deyrnas Unedig hyrwyddo’r gamp fel ffordd dda o gadw’n iach.
Yn gitarydd sydd wedi chwarae gyda Natalie Imbruglia, Anastasia, Norman Cook aka Fat Boy Slim, Sophie Ellis Bextor a Mylène Farmer a llu o fandiau ac artistiaid eraill, mae Peredur ap Gwynedd yn un o’r tîm sy’n cyflwyno’r Tour de France ar S4C.
“Seiclo yw fy mywyd i,” meddai’r gitarydd sy’ wedi teithio’r byd gyda’i fand presennol Pendulum.
“Mae [seiclo] wedi helpu i gadw fi mewn iechyd da a llenwi gofod ar ôl stopio smygu.
“Mae’r wefr rwy’n cael wrth chwarae gig gyda Pendulum yn un arbennig iawn, ond mae’r buzz wy’n cael o feicio’r un mor arbennig, yn wahanol iawn ac yn para’n hirach. Ti’n gallu byw ar yr endorffins mae’n creu am wythnosau wrth feicio mewn rhywle fel yr Alpau,” ychwanegodd.