Mae un o bob pedwar plentyn yn treulio llai na hanner awr yn chwarae tu allan bob dydd, yn ôl ymchwil gan yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol.
Hefyd mae dros hanner y plant rhwng saith a 12 yn treulio llai nag awr y tu allan, tra bod bron i 90% ohonyn nhw erioed wedi chwarae concyrs nac adeiladu rafft.
Nawr mae’r elusen yn lansio ymgyrch i gysylltu’r “genhedlaeth wlân cotwm” â’r byd natur drwy annog 200,000 o blant i chwarae yn yr awyr agored yr haf hwn, ac wedi denu cefnogaeth enwogion megis y digrifwr Hugh Dennis.
Mwy o awyr iach yn yr hen ddyddiau
Ar gyfer yr arolwg holwyd rhieni, neiniau a theidiau. Dywedodd dros hanner neiniau a theidiau’r plant eu bod nhw wedi treulio dros dair awr y dydd o’u plentyndod yn yr awyr agored, o’i gymharu â dim ond 6% o’u hwyrion a’u hwyresau.
Dangosodd ail arolwg o bron i 7,000 o blant fod 92% erioed wedi adeiladu rafft, 87% erioed wedi chwarae concyrs, 89% yn anghyfarwydd â defnyddio map a chwmpawd a 85% heb adeiladu arglawdd mewn afon na darganfod ogof.
Mae’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol nawr yn bwriadu cynnal dros fil o ddigwyddiadau ar thema ’50 peth i chi wneud cyn eich bod chi’n 11¾’ yr haf hwn.
Atgofion plentyndod yn para oes
“Rydym ni eisiau i blant fwynhau bod yn yr awyr agored ac i boeni am fyd natur, fel ei fod yn rhan o’u bywydau pan maen nhw’n tyfu,” meddai Helen Meech o’r ymddiriedolaeth.
“Mae’r atgofion sy’n cael eu creu pan ydych chi’n blentyn yn aros gyda chi am byth, ac os yw’r awyr agored yn rhan o’r atgofion hynny yna gobeithio y bydd y plant yn tyfu i fod eisiau gwarchod y llefydd arbennig yma am flynyddoedd i ddod.
“Rwy’n siŵr petai gan natur lais y byddai’n dweud ei fod yn methu plant heddiw a’i fod eisiau bod yn rhan o hwyl a sbri eu plentyndod.”