Fe wnaeth chwe dyn arfog dorri i mewn i un o westai mwyaf adnabyddus Prydain heddiw, yn yr ail ladrad yno o fewn mis.
Roedd y dynion yn teithio ar dri beic modur, ac fe wnaethon nhw dorri i mewn i westy’r Dorchester yn ardal Mayfair, Llundain yn oriau man y bore.
Roedd y dynion wedi ffoi o fewn munudau, ac nid yw’r heddlu wedi arestio unrhyw un mewn cysylltiad â’r digwyddiad hyd yn hyn.
Cafodd y gwesty ei dargedu ar 10 Mehefin hefyd gyda gemwaith drud yn cael ei ddwyn bryd hynny.
Wrth apelio am wybodaeth, dywedodd yr heddlu fod y lladrad wedi ei “gynllwynio’n fanwl” ac y byddai unrhyw dystiolaeth gan y cyhoedd yn gymorth i’r ymchwilid.
Ni chafodd unrhyw un eu hanafu, yn ôl llefarydd ar ran y Dorchester.