Mae’r heddlu’n parhau i ymchwilio i lofruddiaeth dynes mewn ysbyty yng Nghaerloyw.

Cafodd y ddynes ei thrywanu i farwolaeth mewn ward yn Ysbyty Wotton Lawn fore ddoe ac mae dyn yn ei 60au wedi cael ei arestio ar amheuaeth o’i llofruddio.

Cafodd y ddynes driniaeth cyn cael ei chludo i’r ysbyty lle bu farw’n ddiweddarach.

Mae’r dyn gafodd ei arestio’n parhau i gael ei holi yn y ddalfa.

Dywedodd y Ditectif Uwch Arolygydd Steve Porter o Heddlu Swydd Gaerloyw nad yw’r corff wedi cael ei adnabod yn ffurfiol eto.

Ychwanegodd: “O ganlyniad, allwn ni ddim rhyddhau enw na lluniau o’r ddioddefwraig na theyrngedau iddi ar hyn o bryd.

“Rydyn ni mewn cyswllt cyson gyda’r teulu, sydd wedi gofyn am gael parchu eu dymuniadau.”

Dydy’r ysbyty ddim wedi cadarnhau beth oedd swydd y ddynes, ond mae lle i gredu nad oedd hi’n nyrs yn yr ysbyty sy’n arbenigo mewn gofal ar gyfer cleifion sy’n dioddef o salwch meddwl difrifol.

Does dim cadarnhad eto chwaith a oedd y dyn sydd wedi cael ei arestio’n glaf yn yr ysbyty.

Mae pobol wedi bod yn rhoi teyrngedau i’r ddynes ar wefannau cymdeithasol.

Dywedodd un: “Rwy mewn sioc. Mae fy meddyliau gyda’r teulu…”

Dywedodd un arall ei bod hi’n “ddynes anhygoel” a bod ei marwolaeth yn “drasiedi go iawn”.

Mae’r ymchwiliad yn parhau.