Mae arolwg newydd yn dangos bod chwarter modurwyr Prydain wedi cyfaddef eu bod nhw wedi gyrru tra eu bod wedi blino yn ystod y chwe mis diwethaf.

O blith y rhai a gyfaddefodd hynny wrth gwmni yswiriant esure, dywedodd 42% ohonyn nhw eu bod nhw wedi parhau â’u taith yn hytrach na stopio.

Y rhai mwyaf euog yw gyrwyr 18-34 oed, a’r rhai sy’n fwyaf tebygol o yrru tra eu bod nhw wedi blino yw pobl yn Llundain.

Dywedodd 48% o ddynion eu bod nhw wedi parhau i yrru tra eu bod nhw wedi blino – dim ond 32% o fenywod ddywedodd yr un peth.

Roedd y canrannau hefyd yn uchel yn nwyrain Canolbarth Lloegr, de ddwyrain Lloegr, gogledd orllewin Lloegr a Swydd Efrog.

Dywedodd pennaeth moduro esure, Andrew Lowe fod casgliadau’r arolwg yn “frawychus”.

“Mae’n bryder yn enwedig amser hyn o’r flwyddyn i bobol sy’n gyrru’n bellach neu yn ystod oriau anghymdeithasol i fynd ar wyliau neu i’r maes awyr.”