Mae dyn yn ei 60au wedi cael ei arestio ar amheuaeth o lofruddio dynes mewn ysbyty yng Nghaerloyw.
Cafodd y ddynes, oedd yn gweithio yn yr ysbyty, ei thrywanu ar un o wardiau Ysbyty Wotton Lawn tua 7.30yb fore ddoe.
Cafodd ei chludo i Ysbyty Brenhinol Caerloyw lle bu farw’n ddiweddarach yn sgil ei hanafiadau.
Mae’r dyn wedi’i gadw yn y ddalfa.
Mae Ysbyty Wotton Lawn yn ysbyty ar gyfer achosion difrifol o salwch iechyd meddwl sy’n cynnig gwasanaethau i gleifion mewnol trwy’r sir.
Mae gan yr ysbyty bedwar ward, uned gofal dwys seiciatryddol ac uned diogelwch isel ac mae nyrsys, doctoriaid, seicolegwyr, therapyddion celf, ffisiotherapyddion a therapyddion galwedigaethol ac ymarfer corff yn darparu gwasanaethau i’r cleifion.
Dywedodd yr Ysgrifennydd Iechyd, Jeremy Hunt fod y digwyddiad yn “ddinistriol” ac fe fynegodd gydymdeimlad â’i theulu a’i chydweithwyr.