Fe fydd digwyddiad mawr yn cael ei gynnal yng Nghatalwnia’r penwythnos hwn i dynnu sylw at yr ymgyrch i sicrhau annibyniaeth.

Gobaith Catalwnia yw cynnal refferendwm ar 9 Tachwedd ond mae eu dyfodol yn dal yn ansicr yn sgil gwrthwynebiad llywodraeth Sbaen i roi’r hawl iddyn nhw fynd i bleidleisio.

Fel rhan o’r penwythnos, fe fydd teuluoedd ledled Catalwnia’n croesawu ymwelwyr o Ewrop i’w cartrefi i roi blas iddyn nhw o’r diwylliant a’r sefyllfa wleidyddol bresennol.

Yr Assemblea Nacional Catalana (ANC) sy’n trefnu’r digwyddiad ar gyfer eu 30,000 o aelodau sydd am gymryd rhan.

Ddydd Sul, fe fydd yr aelodau a’r ymwelwyr yn dod ynghyd yn Girona ar gyfer prif ddigwyddiad y penwythnos ac yn rhannu eu profiadau trwy amryw wefannau cymdeithasol.

Hwn yw’r diweddaraf mewn cyfres o fentrau sy’n ceisio codi ymwybyddiaeth o’r frwydr am annibyniaeth.

Yn ddiweddar, cafodd tyrrau dynol – neu ‘castell’ – eu codi gan Gatalaniaid mewn nifer o ddinasoedd ledled Ewrop – gan gynnwys Llundain, Paris a Berlin – er mwyn cyfleu eu dyhead i gynnal refferendwm.