Mae awdur adroddiad ar safonau technoleg gwybodaeth a chyfathrebu (TGCh) yn ysgolion uwchradd Cymru wedi dweud y dylai ysgolion wneud defnydd o’r feddalwedd Gymraeg sydd ar gael, er mwyn i blant sylweddoli fod y Gymraeg yn iaith dechnolegol.
Daw sylw Maldwyn Pryse, sef awdur adroddiad Estyn ar safon pwnc TGCh, wrth i adroddiad y corff arholi gael ei gyhoeddi heddiw.
Mae’n dweud nad yw safon y dysgu yn ddigonol mewn tua hanner yr ysgolion uwchradd yng Nghymru ac nad yw’r pwnc yn ddigon difyr i ddisgyblion.
Yn ôl Estyn, byddai gwella safonau TGCh yn datblygu gallu disgyblion i weithio’n annibynnol ac yn gymorth iddyn nhw wneud cynnydd ar draws y cwricwlwm.
‘Y Gymraeg yn iaith dechnolegol’
Wrth siarad â golwg360 am yr adroddiad, dywedodd Maldwyn Pryse nad oedd un ysgol yr ymwelwyd â nhw yn ystod yr arolwg hwn yn defnyddio’r feddalwedd Gymraeg sydd ar gael.
“Er bod Windows, Word, Powerpoint ac ati ar gael yn y Gymraeg doedd na ddim un ysgol yn eu defnyddio.
“Mae angen rhoi’r neges i’r ysgolion, mae’r feddalwedd ar gael yn y Gymraeg ac mae’n bwysig fod plant yn sylweddoli fod y Gymraeg yn iaith dechnolegol sy’n rhan o fywyd bob dydd yn y ganrif yma.
‘Angen gwella ansawdd dysgu’
Wrth ymateb i’r adroddiad llawn, mae Prif Arolygydd Estyn, Ann Keane, wedi dweud fod rhaid gwella ansawdd dysgu, cyflwyno a monitro’r pwnc ar draws y cwricwlwm.
“Mae defnyddio technoleg ddigidol yn rhan o fywyd bob dydd i lawer ohonom.
“Er bod pocedi o arfer da, mae angen i bob ysgol uwchradd wella ansawdd addysgu, cyflwyno a monitro TGCh ar draws y cwricwlwm.
“Rwy’n annog pob ysgol i ddarllen yr adroddiad, nodi’r argymhellion ac anelu at arfer dda’r darparwyr hynny sy’n cael sylw yn ein hastudiaethau achos.”
Mae’r adroddiad yn argymell fod Llywodraeth Cymru yn gweithredu fframwaith statudol ar gyfer TGCh o’r Cyfnod Sylfaen i ôl-16 ac yn ystyried datblygiadau mewn technoleg, yn amodol ar adolygu’r cwricwlwm presennol yng Nghymru.