Mae Llywodraeth Cymru yn gwneud gwaith da o ostwng nifer y bobol ifanc 16-18 oed sydd ddim mewn gwaith nac addysg (NEET) ond nid oes digon yn cael ei wneud i gefnogi’r rhai 19-24 oed.

Dyma gasgliad adroddiad gan Archwilydd Cyffredinol Cymru, sydd hefyd yn dweud nad yw’r  Llywodraeth yn medru asesu os yw’n cyflawni gwerth am arian yn y maes.

Dywedodd yr Archwilydd Cyffredinol, Huw Vaughan Thomas fod Llywodraeth Cymru yn cael digon o gefnogaeth gan gynghorau lleol wrth fonitro nifer y bobol ifanc sy’n ddi-waith, ond nid ydyw wedi gosod fframwaith ddigon clir ynglŷn â’r cymorth sydd ar gael i bobol ifanc 19-24 oed.

Rhwng 2008 a 2012 fe wnaeth nifer y bobol ifanc 16-18 oed sydd ddim mewn gwaith nac addysg (NEET) ostwng o 12.4% i ychydig dros 10%, ond codi wnaeth nifer y bobol ifanc 19-24 oed sy’n NEET o 6% i 23%.

“Mae’n hollbwysig bod y ffocws yn cael ei ehangu i sicrhau bod pobol ifanc ar y trywydd cywir hyd at ganol eu hugeiniau ac yn parhau i sicrhau nad yw ein pobol ifanc yn wynebu diweithdra” meddai’r Archwilydd.

Gwerth am arian’

Mae Huw Vaughan Thomas yn amcangyfrif i tua £200 miliwn gael ei wario gan Lywodraeth Cymru ac Ewrop yn 2012-13 ar ostwng nifer y bobol ifanc sydd ddim mewn gwaith nac addysg (NEET). Ond ni wnaeth Llywodraeth Cymru asesu cost y ddarpariaeth angenrheidiol ar gyfer cefnogi gweithrediad Fframwaith ar y cychwyn,

Yn ôl yr Archwilydd, mae’n dangos gwendidau o ran gwerthuso ymyriadau ac yn amlygu nad yw’r cynlluniau yn ddigon clir ynglŷn ag asesu gwerth am arian y gwariant.

Argymhellion

Mae’r adroddiad yn gwneud nifer o argymhellion i Lywodraeth Cymru, er mwyn eu helpu i sicrhau bod y Fframwaith yn llwyddiant, gan gynnwys:

  • Cydweithio â phartneriaid er mwyn mapio ac adolygu’r adnoddau sy’n ofynnol i gyflawni ei nodau;
  • Egluro ei fframwaith ei hun a dull cynghorion o weithio er mwyn lleihau ymddieithriad ymysg pobol ifanc 19-24 oed;
  • Canolbwyntio gweithgarwch ar bobol ifanc sydd fwyaf tebygol o fod yn NEET yn cynnwys rhieni ifanc a phobol ifanc ag anableddau neu salwch cronig;
  • Sicrhau bod cynghorau a’u partneriaid yn rhannu targedau Llywodraeth Cymru ar gyfer lleihau nifer y bobl ifanc sy’n NEET; a
  • Datblygu dull o fonitro a gwerthuso sy’n sicrhau y gellir sefydlu arfer da a gwerth am arian.