Yr Old Bailey
Mae mam wedi cyfaddef iddi ladd ei tri phlentyn anabl.
Wrth ymddangos yn yr Old Bailey roedd Tania Clarence, 42, wedi pledio’n euog i gyhuddiad o ddynladdiad ei phlant – Olivia, 4, a’r efeilliaid tair oed Ben a Max – o ganlyniad i gyfrifoldeb lleiedig.
Ond mae Clarence, o New Malden, de Llundain yn gwadu llofruddio ei thri phlentyn rhwng 20 a 23 Ebrill.
Mae disgwyl i’r achos yn ei herbyn ddechrau ar 21 Chwefror y flwyddyn nesaf.
Cafodd Clarence ei chadw mewn ysbyty meddwl diogel.
Cafodd yr heddlu eu galw i gartref y teulu am 9.30yh ar 22 Ebrill lle cafwyd hyd i gyrff y plant.
Roedd y tri yn dioddef o gyflwr geneteg oedd yn golygu mai ychydig iawn o reolaeth oedd ganddyn nhw o’u symudiadau ac mae’r cyflwr hefyd yn golygu nad oes disgwyl iddyn nhw fyw’n hir.
Cafodd Clarence ei chyhuddo ar 24 Ebrill.
Fe fydd gwrandawiad yn cael ei gynnal cyn yr achos ar 3 Hydref.