Tlws Barn y Bobl Golwg360 - Llyfr y Flwyddyn 2014
Artist ifanc o bentref Clydau yn Sir Benfro sy’n gyfrifol am greu tlws Barn y Bobl Llyfr y Flwyddyn eleni.

Mae Glesni Thomas newydd ennill gradd mewn Celf Gain ym Mhrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant yng Nghaerfyrddin, ac yn arbennig o mewn gwaith cerameg.

Dyma’r bedwaredd tro i Golwg360 gydweithio gyda Phrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant er mwyn rhoi cyfle i artistiaid ifanc o’r Adran Gelf lunio’r wobr.

Hunaniaeth

Mae Glesni yn defnyddio dylanwadau o’r ardaloedd sy’n gyfarwydd iddi – Aberteifi, Trefdraeth a Chaerfyrddin – yn ogystal â’i phlentyndod, fel sbardun ar gyfer ei gwaith.

“R’wyf yn gweithio gyda ffotograffiaeth ‘encaustic’ a gwaith cerameg” meddai Glesni wrth Golwg360.

“Y brif thema sy’n rhedeg trwy fy ngwaith yw ‘Hunaniaeth’. Byddaf yn defnyddio ffotograffau o’m mhlentyndod fel sianel yn ogystal â gweithio patrymau daearegol a gwead organig i mewn i’r clai er mwyn unoli fy hunan gyda’r tirwedd.”

“Rwy’n falch iawn o’r cyfle i greu tlws Barn y Bobl eleni, ac yn gobeithio bydd enillydd y wobr yn hoffi’r darn rydw i wedi creu iddyn nhw.”

Mae pleidlais Barn y Bobl yn cael ei chynnal ar Golwg360 am y bumed flwyddyn yn olynol, ac ar agor ers cyhoeddi rhestr fer Llyfr y Flwyddyn eleni.

Mae’r bleidlais yn cau am 13:00 ddydd Llun 7 Gorffennaf, ac mae modd pleidleisio isod.

Bydd seremoni Llyfr y Flwyddyn 2014 yn cael ei chynnal yn y Galeri yng Nghaernarfon nos Iau yma, 10 Gorffennaf. Bydd modd i chi ddilyn yr hyn sy’n digwydd ar y noson ar ffrwd Twitter Golwg360.