Cafodd gŵyl gyhoeddi Eisteddfod Genedlaethol 2015 ei chynnal heddiw yn y Drenewydd, gan ddynodi 13 mis cyn i Faldwyn a’r Gororau groesawu’r ŵyl i Feifod.
Cafodd gorymdaith ei chynnal drwy’r Drenewydd cyn y seremoni ei hun wrth gerrig yr orsedd ym mharc y dref, gerbron tua 600 o bobol. Bu rhai o dalentau’r fro yn diddanu cyn hynny ar lwyfan yn y parc.
Mae Rhestr Testunau 2015 ar werth o heddiw ymlaen, a hefyd Rhaglen y Dydd Eisteddfod Llanelli, sy’n dechrau ymhen pedair wythnos.
Mae’r pwyllgor lleol yn Sir Gaerfyrddin wedi hen fwrw’r nod o godi £300,000, gyda £393,000 wedi ei godi hyd yma tuag at Eisteddfod Llanelli.
Yng nghyfarfod Cyngor yr Eisteddfod yn y bore cafodd un o drigolion ardal Llanelli, Garry Nicholas, ei ail-enwebu yn Llywydd Llys yr Eisteddfod.