Llun o'r frwydr o raglen a ddangoswyd ar S4C
Fe fydd CD yn cael ei lansio’r wythnos nesa’ i gofio un o ddigwyddiadau arwrol ardal yr Eisteddfod eleni.

Ac fe fydd cyfle i bobol ar faes y Brifwyl weld perfformiad a ddenodd gynulleidfaoedd mawr yn y cylch y llynedd.

Y CD Mewn Undeb Mae Nerth yw’r cofnod diweddara’ o frwydr trigolion Llangyndeyrn yng Nghwm Gwendraeth i atal eu tir rhag cael ei foddi gan am ddŵr gan Gorfforoaeth Abertawe hanner can mlynedd yn ôl.

Mae’n cynnwys caneuon o sioe o’r un enw oedd wedi ei pherfformio adeg dathliadau’r fuddugoliaeth.

Y Babell Lên

Fe fydd perfformiadau o’r sioe gan Gwmni Theatr Ieuenctid Menter Cwm Gwendraeth yn Theatr Ffwrnes Llanelli ac yn y Babell Lên yn ystod wythnos yr Eisteddfod.

Mae’r CD yn cael ei lansio nos Wener nesa’ yn Neuadd Llangyndeyrn ac mae’n cael ei gyhoeddi dan label Cyhoeddiadau Gwenda – label y gantores leol, Gwenda Owen.

Ei gŵr, Emlyn Dole, sy’n gyfrifol am gyfansoddi’r canueon a’r sioe, sy’n cymryd ei theitl o’r geiriau ar y garreg goffa yng nghanol pentre’ Llangyndeyrn.

‘Pwysig cofio’

Mae clawr y CD hefyd yn cynnwys lluniau o’r frwydr ac mae dau o’r rhai a fu’n cymryd rhan hefyd yn crynhoi eu hatgofion.

“Mae’n bwysig fod pobol yn y dyfodol yn cofio am y brwydro a’r fuddugoliaeth yn Llangyndeyrn,” meddai Gwenda Owen wrth golwg360. “Mae’n bwysig ein bod yn cofio buddugoliaethau – mewn undeb mae nerth.”

Mae’r CD ar werth am £10.