Mae pobol sy’n fodlon teithio awr ar drên yn teithio i’w gwaith yn Llundain yn arbed £380,000 ar bris tŷ, o gymharu gyda rhai sy’n byw yng nghanol prifddinas Lloegr.
Yn ôl ymchwil Banc Lloyds mae cartrefi yn yr ardaloedd sydd rhyw awran o ganol y brifddinas – llefydd fel Crawley, Windsor, Brighton a Chaergrawnt – yn costio £260,000, ar gyfartaledd.
Mae hynny £381,000 yn is na chost tŷ arferol ynghanol Llundain, sef £641,000.
Gyda’r gost o deithio ar drên am flwyddyn tua £5,000, mi fyddai’n cymryd 76 mlynedd o gymudo i wneud yn iawn am y gwahaniaeth mewn prisiau tai.