Mae mam i ddisgybl yn Ffrainc wedi trywanu athro i farwolaeth o flaen ei dosbarth.

Dywedodd y Gweinidog Addysg bod gan y fam “broblemau seiciatrig difrifol”. Mae hi yn y ddalfa.

Mae ymosodiadau angheuol mewn ysgolion yn brin iawn yn Ffrainc, ac mae’r llofruddiaeth o flaen dosbarth o blant pump a chwech oed wedi achosi pryderon mawr.

Roedd yr Arlywydd Hollande yn gandryll gyda’r “ddrama ffiaidd” ddigwyddodd yn ysgol Edouard Herriot yn Albi yn ne Ffrainc.

Roedd gan yr athrawes 34 oed a laddwyd ddwy ferch fach.