Rolf Harris ym Mangor (Llun: Gerallt Llewelyn)
Mae’r Cymro o dras, Rolf Harris, yn wynebu’r posibilrwydd o garchar pan fyd dyn cael ei ddedfrydu heddiw am gyfres o droseddau rhyw yn erbyn merched ifanc.
Mae’r barnwr yn yr achos eisoes wedi rhybuddio’r diddanwr 84 oed mai carchar sydd fwya’ tebyg ar ôl i reithgor gael Rolf Harris yn euog o 12 trosedd o ymosod yn rhywiol.
Dim ond saith neu wyth oed oedd y ddioddefwraig ieuanga’ tra oedd un arall yn ffrind gorau i’w ferch ei hun.
Hen droseddau
Fe fydd y barnwr yn Llys y Goron Southwark yn gorfod ystyried oed Rolf Harris a’r ffaith fod y rhan fwya’ o’r troseddau wedi digwydd mewn cyfnod pan oedd cosbau’n llai na heddiw.
Roedd naw o’r 12 cyhuddiad wedi digwydd rhwng 1968 ac 1985 – bryd hynny’r gosb ucha’ am y drosedd fwya’ difrifol oedd pum mlynedd.
Roedd tair o’r troseddau eraill yn erbyn merch 15 oed yn 1986 – erbyn hynny roedd y gosb ucha’ bosib wedi codi i ddeng mlynedd.
Rhybudd o garchar
Ar ôl i’r rheithgor gael y canwr a’r arlunydd yn euog, roedd y barnwr wedi dweud yn glir wrth gyfreithwyr Rof Harris ei fod yn ystyried carchar.
“Yn realistig,” meddai, “o ystyried y ddedfryd euog ar bob un o’r 12 cyhuddiad, mae’n anorfod mai carchar yw’r fath o ddedfryd sydd ucha’ ym meddwl y llys a rhaid iddo ddeall hynny.”
Yn ystod yr achos llys, roedd rhagor o fenywod wedi rhoi tystiolaeth fod Rolf Harris wedi ymyrryd yn rhywiol arnyn nhw ac, ers y ddedfryd, mae rhagor o honiadau wedi dod gan ferched yng ngwledydd Prydain, Seland Newydd ac Awstralia, lle cafodd Harris ei fagu.
Roedd ei dad a’i fam yn dod o Gymru.
Colli anrhydeddau
Mae Rolf Harris eisoes wedi colli ei gymrodoriaeth gyda’r gymdeithas ffilm a theledu, BAFTA a gradd brifysgol er anrhydedd ac mae’n debyg hefyd o golli ei CBE.