Prif adeilad Amgueddfa Cymru yng Nghaerdydd (Ham - CCA2.0)
Mae pennaeth Amgueddfa Cymru wedi dweud bod llawer gormod o arian y celfyddydau’n mynd i ran fach o ganol Llundain – ar draul canolfannau eraill fel Caerdydd.

Mewn araith yn yr Amgueddfa neithiwr, fe ddywedodd David Anderson fod gormod o arian cyhoeddus a phreifat yn llifo i sefydliadau mewn tair bwrdeistref Lundeinig.

Roedd angen sicrhau bod canolfannau safonol eraill ar draws y Deyrnas Unedig hefyd yn cael y cyfle i ffynnu, meddai.

Llwgu

Honiad David Anderson oedd fod tua hanner biliwn o bunnoedd arian cyhoeddus yn mynd i sefydliadau yng nghanol Llundain.

Ar ben hynny, roedd hanner miliwn arall o gefnogaeth breifat – mwy na 70% o’r cyfanswm trwy wledydd Prydain – hefyd yn mynd yno.

Yn y tair bwrdeistref yna – Southwark, Westminster a Kensington a Chelsea – y mae llawer o theatrau’r West End, y Theatr Genedlaethol Brydeinig a’r amgueddfa a’r orielau mawr.

“O gymharu â hynny, mae gweddill y Deyrnas Unedig yn cael eu llwgu o ran ei darpariaeth gelfyddydol a diwylliannol,” meddai.