Y Pafiliwn Pinc uwchben tref Llanelli
Mae’r Pafiliwn Pinc wedi cael ei godi ar y Maes ar gyfer Eisteddfod Sir Gâr yn Llanelli y mis nesaf.

Bydd y Brifwyl yn cael ei chynnal  o 1-9 Awst.

Meddai Prif Weithredwr yr Eisteddfod Genedlaethol, Elfed Roberts: “Ychydig dros bedair wythnos sydd i fynd cyn y bydd yr Eisteddfod yn cychwyn eleni. Fe’i cynhaliwyd yn Sir Gâr y tro diwethaf yn 2000, ac mae cefnogaeth a chymorth y bobl leol a’r gwirfoddolwyr wedi bod yn ardderchog dros y ddwy flynedd ddiwethaf.

“Mae codi’r Pafiliwn Pinc – sy’n symbol eiconig o ddiwylliant Cymru – yn arwydd pellach bod y trefniadau ar gyfer yr wythnos yn dod ynghyd, ac rydym i gyd yn edrych ymlaen am wythnos i’w chofio yn yr ardal ddechrau Awst.”

Mae trefnwyr yn gobeithio y bydd yr Eisteddfod yn denu tua 150,000 o ymwelwyr i ardal Sir Gâr dros gyfnod y Brifwyl.