Emyr Byron Hughes
Mae un o sefydlwyr S4C, y darlledwr Emyr Byron Hughes, wedi marw’n 63 oed.

Roedd yn gyfreithiwr cyfryngau a chynghorydd polisi gyda mwy na 30 mlynedd o brofiad yn y diwydiant darlledu.

Yn aelod o’r tîm wnaeth sefydlu S4C yn 1982, bu hefyd yn gweithio ar lefel uwch yn S4C fel cyfarwyddwr polisi corfforaethol y sianel ac ysgrifennydd Awdurdod y Sianel.

Wrth roi teyrnged iddo, dywedodd Cadeirydd Awdurdod S4C Huw Jones wrth y BBC ei fod wedi gwneud “cyfraniad aruthrol” i S4C.

Ac fe ddywedodd Ian Jones, prif weithredwr S4C bod ei gyfraniad at lwyddiant y sianel yn ystod y dyddiau cynnar yn “gwbl amhrisiadwy.”