Mae gwasanaeth atal twyll CIFAS wedi cyhoeddi pamffled sy’n rhybuddio ymgeiswyr am swyddi i beidio â dweud celwydd ar eu CV.

Dywed CIFAS yn eu pamffled ‘Don’t finish your career before it starts’ fod newid graddau a manylion am brofiad gwaith perthnasol ymhlith y celwyddau mwyaf cyffredin sy’n cael eu nodi ar ffurflenni cais a CV ymgeiswyr.

Mae gan CIFAS gronfa ddata sy’n cadw manylion pobol sydd wedi dweud celwydd ar ffurflenni cais a’u CV am hyd at chwe blynedd.

Mae’r gronfa ddata yn agored i gyflogwyr wirio pwy sydd ar eu rhestr.

Rhybuddia CIFAS y gallai dweud celwydd arwain at gyfnod yn y carchar, ac mae’r pamffled yn nodi enghreifftiau o bobol sydd wedi cael eu herlyn a’u carcharu.

Yn y pamffled, dywed CIFAS: “Os yw cyflogwyr yn derbyn cais am swydd sy’n ymddangos yn dwyllodrus a bod modd iddyn nhw brofi hynny, ac os ydyn nhw’n un o gannoedd o aelodau CIFAS – Gwasanaeth Atal Twyll y DU – yna mae modd iddyn nhw gofnodi manylion yr ymgeisydd ar gronfa ddata twyll fewnol ddiogel.”

Mae’r pamffled hefyd yn dyfynnu Rheolwr Gyfarwyddwr yr asiantaeth Hire Right, Steve Girdler, sy’n dweud: “Mae graddedigion yn aml yn clywed yn y cyfryngau neu o’u cyfoedion ei bod yn arferol gor-ddweud pethau ar CV.

“Ond mae cyflogwyr yn gwirio gwybodaeth, yn enwedig ar gyfer swyddi graddedigion lle mae ychydig iawn o wahaniaeth rhwng amryw ymgeiswyr.

“Gallai gwallau a chelwyddau bach olygu’r gwahaniaeth rhwng cyrraedd y cam nesaf yn y broses recriwtio a chael eich anfon adref.”