Mae Asda wedi cyhoeddi bod 1,360 o swyddi’n cael eu colli o ganlyniad i ad-drefnu ei strwythur rheoli.
Ddeufis yn ôl, rhybuddiodd yr archfarchnad, sydd â 578 o siopau yng ngwledydd Prydain, fod hyd at 4,100 o swyddi yn y fantol.
Maen nhw’n dweud eu bod nhw’n bwriadu cynyddu nifer y swyddi rheng flaen ar draul rheolwyr mewn ymgais i “addasu i’r newidiadau dwys ym myd manwerthu’r DU”.
Fel arall, bydden nhw’n “cael eu gadael ar ôl”, yn ôl y Prif Weithredwr Andy Clarke.
Yn sgil y newidiadau, fe fydd 1,662 o swyddi rheolwyr adrannol yn cael eu creu a 4,000 o swyddi arweinwyr adrannol.
Bydd rhai staff, gan gynnwys y rhai nad ydyn nhw’n ateb gofynion y swyddi newydd, yn derbyn taliadau diswyddo gwirfoddol.
Daw’r cyhoeddiad fis ar ôl i archfarchnad Morrison gyhoeddi eu bod nhw hefyd yn torri 2,600 o swyddi er mwyn ad-drefnu’r system reoli.
Mae’r ddau gwmni, ynghyd â Tesco a Sainsbury yn ei chael hi’n anodd cystadlu â nifer o archfarchnadoedd mwy uchel ael fel Waitrose, a’r rhai sy’n cynnig gostyngiadau sylweddol fel Aldi a Lidl.
Yn sgil y newidiadau, fe fydd Asda yn rhoi mwy o bwyslais ar siopa ar-lein.