Bwtcamp Cymraeg Coleg Ceredigion y llynedd
Yr wythnos hon bydd tua 20 aelod o staff Coleg Ceredigion yn cymryd rhan mewn deuddydd o ddigwyddiadau i hybu defnydd o’r Gymraeg yn y dosbarth ac wrth gefnogi myfyrwyr.

Wedi ei anelu at staff di-gymraeg, dysgwyr a siaradwyr Cymraeg dibrofiad, mae’r ”bŵtcamp” yn cynnwys gweithgareddau i ddatblygu eu hyder o ddefnyddio’r iaith. Mae’n rhedeg o fore heddiw tan fore Sadwrn.

Dyma’r ail bŵtcamp i’r coleg ei gynnal yr wythnos hon, ar ôl cynnal digwyddiad tebyg ar gyfer deuddeg o fyfyrwyr ar ddechrau’r wythnos a oedd yn “llwyddiant ysgubol”, yn ôl llefarydd ar ran y coleg.

‘Y Gymraeg yn ganolog’

“Mae’r iaith Gymraeg yn rhan ganolog o’r diwylliant yma yng Ngholeg Ceredigion ac rydym yn annog myfyrwyr i astudio trwy gyfrwng y Gymraeg,” meddai Rhys Huws o’r coleg.

“Nod y Bŵtcamp Cymraeg yw rhoi cyfle i unigolion wella eu sgiliau Cymraeg trwy amrywiol weithgareddau gwahanol a llawn hwyl.

“Bu’r Bŵtcamp llynedd, a’r un myfyrwyr a’r ddechrau’r wythnos, yn llwyddiant ysgubol. Ymysg y gweithgareddau wedi eu trefnu ar eu cyfer roedd gweithdy bit bocsio gydag Ed Holden.”

Gwobr

Fe dderbyniodd Coleg Ceredigion wobr Colegau Cymru 2014 am eu gwaith i hybu’r Gymraeg a Dwyieithrwydd ymysg eu myfyrwyr. Roedd y wobr yn cydnabod llwyddiannau eithriadol gan ddysgwyr, athrawon a cholegau ac yn ôl Dr John Graystone, Prif Weithredwr Colegau Cymru, “mae’n sicrhau bod yr arferion gorau yn cael eu cydnabod yn iawn”.

Bydd modd dilyn gweithgareddau Bŵtcamp Cymraeg ar Twitter efo’r hashtag #bwtcamp.