Mae Llysgenhadaeth yr Unol Daleithiau yn Uganda yn rhybuddio ei fod wedi derbyn gwybodaeth am fygythiad terfysgol yn erbyn unig faes awyr rhyngwladol y wlad.
Dywedodd yr heddlu yn Uganda fod y wybodaeth wedi dod gan “grŵp derfysgol anhysbys” sydd wedi dweud fod posib y bydd ymosodiad yn digwydd ar y maes awyr yn Entebbe rhwng 9yh ac 11yh amser lleol.
Mae’r llysgenhadaeth yn annog Americanwyr sydd i fod i deithio o’r maes awyr ar yr adeg honno i “ailfeddwl eu trefniadau.”
Mae heddlu Uganda wedi cyhoeddi sawl rhybudd o fygythiadau terfysgol yn ddiweddar, gan ddweud bod y grŵp eithafol Islamaidd al-Shabab yn cynllwynio ymosodiad ar Uganda.
Fe wnaeth al-Shabab hawlio cyfrifoldeb am ymosodiadau angheuol ym mis Gorffennaf 2010 wnaeth dargedu bwytai oedd yn dangos gemau Cwpan y Byd.