Mae’r pôl piniwn diweddaraf sydd wedi cael ei gyhoeddi ar y cyd rhwng ITV Cymru, Canolfan Lywodraethiant Cymru ac asiantaeth YouGov yn darogan rhagor o lwyddiant i UKIP yn etholiadau nesaf y Cynulliad a San Steffan.
Hwn yw’r pôl piniwn cyntaf i gael ei gyhoeddi o dan drefn newydd o fesur y canlyniadau. Gynt, roedd y polau’n arfer dangos cefnogaeth i’r Blaid Lafur a’r Democratiaid Rhyddfrydol ychydig yn uwch nag ydyw mewn gwirionedd, tra bod y canlyniadau’n is na’r gwirionedd i’r Ceidwadwyr ac UKIP.
Mae’r canlyniadau a’r drefn newydd o gynnal y pôl yn cael eu hegluro ar wefan yr Athro Roger Scully o Ganolfan Lywodraethiant Prifysgol Caerdydd.
San Steffan
O safbwynt San Steffan, dywedodd 41% y bydden nhw’n pleidleisio tros Lafur, tra bod 25% yn bwriadu pleidleisio tros y Ceidwadwyr.
Roedd 11% yn ffafrio Plaid Cymru, tra bod 14% yn barod i bleidleisio tros UKIP.
Dim ond 5% nododd y bydden nhw’n bwrw eu pleidlais tros y Democratiaid Rhyddfrydol.
O safbwynt seddi, byddai’r canlyniadau’n cyfateb i 28 o seddi i’r Blaid Lafur (dwy ychwanegol), wyth i’r Ceidwadwyr, tair i Blaid Cymru ac un i’r Democratiaid (dwy yn llai).
Yn nhermau go iawn, byddai Llafur yn cipio Canol Caerdydd oddi ar y Democratiaid Rhyddfrydol a Gogledd Caerdydd oddi ar y Ceidwadwyr, tra byddai’r Ceidwadwyr yn cipio Aberhonddu a Sir Faesyfed oddi ar y Democratiaid Rhyddfrydol.
Y Cynulliad
Dywedodd 37% y bydden nhw’n pleidleisio tros y Blaid Lafur yn etholiadau’r Cynulliad y flwyddyn nesaf, tra bod 21% wedi mynegi eu cefnogaeth i’r Ceidwadwyr.
Roedd 20% yn cefnogi Plaid Cymru, tra bod 5% yn barod i bleidleisio tros y Democratiaid Rhyddfrydol.
Dywedodd 13% y bydden nhw’n pleidleisio tros UKIP.
Mae hynny’n golygu llai o gefnogaeth i’r Blaid Lafur – y lleiaf ers 2010 ond mae UKIP yn parhau i gryfhau tra bod y Ceidwadwyr a Phlaid Cymru’n aros yn gyson.
Yr unig newid sy’n debygol o ddigwydd o ran seddi ar sail y canlyniadau hyn yw y byddai Plaid Cymru’n cipio Llanelli oddi ar y Blaid Lafur.
O safbwynt seddi rhanbarthol, roedd y pôl yn dangos 34% i’r Blaid Lafur, 21% i’r Ceidwadwyr, 18% i Blaid Cymru, 16% i UKIP a 5% i’r Democratiaid Rhyddfrydol.
O edrych ar y darlun cyfan felly, fe fyddai’r Cynulliad yn edrych fel hyn:
- Llafur: 29 (-1); 27 o ACau etholaeth, 2 ranbarthol
- Ceidwadwyr: 12 (-2); 6 AC etholaeth, 6 rhanbarthol
- Plaid Cymru: 10 (-1); 6 AC etholaeth, 4 rhanbarthol
- UKIP 8 (+8); 8 AC rhanbarthol
- Democratiaid Rhyddfrydol: 1 (-4); 1 AC etholaeth