Mae Heddlu Greater Manchester yn galw am dystion wedi i ddyn gael ei orfodi i mewn i gefn car yn ystod oriau mân fore Sul.

Fe welwyd y dyn, sydd heb ei enw, yn cael ei orfodi i mewn i gefn car du gydag olwynion aloi tebyg i rai Volkswagen Golf ar gyffordd yr A34 Kingsway a Mauldeth Road ym Manceinion.

“Dydyn ni ddim yn gwybod yn union beth ddigwyddodd, ond o’r manylion yr ydyn ni wedi eu derbyn, r’yn ni’n amlwg yn gofidio am y dyn sydd wedi ei orfodi i mewn i’r car,” meddai llefarydd ar ran yr heddlu.

“R’yn ni’n awyddus i glywed gan unrhyw un a welodd unrhyw beth, neu a welodd y car hwn yn yr ardal. Neu, os oes unrhyw un yn meddwl eu bod nhw’n gwybod beth yn union ddigwyddodd, neu pam y digwyddodd hyn, mae angen iddyn nhw ddod aton ni i ddweud.

“Fe fyddwn ni’n trin unrhyw ddarn o wybodaeth yn sensitif, a fyddwn ni ddim yn dweud pwy ddywedodd un dim wrthon ni.”