Mae cwpwl priod wnaeth lofruddio rhieni’r wraig am arian, a’u claddu yn yr ardd, yn wynebu oes yn y carchar.
Cafodd cyrff Patricia a William Wycherley eu darganfod mewn gardd tŷ yn Mansfield, Swydd Nottingham bymtheng mlynedd wedi iddyn nhw gael eu claddu yno yn 1998.
Roedd Susan a Christopher Edwards o Dagenham ger Llundain yn dal i dderbyn budd-daliadau’r rhieni ar ôl iddyn nhw farw.
Fe wnaeth Susan Edwards gyfaddef lladd ei mam, ond penderfynodd rheithgor ei bod hi a’i gŵr yn euog o lofruddio ei rhieni.
Am 15 mlynedd wedi’r saethu, fe wnaeth Susan a Christopher Edwards dderbyn gwerth £245,000 o fudd-daliadau o dan enw ei rhieni.