Michael Fabricant
Mae’r Blaid Geidwadol wedi mynnu fod yr Aelod Seneddol Michael Fabricant yn ymddiheuro am sylwadau a wnaeth yn dweud y byddai’n taro newyddiadurwraig yn ei gwddf.
Fe drydarodd Fabricant ei sylwadau ar ôl i’r newyddiadurwraig adain chwith Yasmin Alibhai-Brown ddadlau â’r sylwebydd adain dde Rod Liddle ar raglen deledu.
Dywedodd Fabricant ar Twitter: “Allwn i fyth ymddangos ar raglen drafod gyda @y_alibhai byddwn i un ai yn diweddu yn cael gwaedlif yr ymennydd neu’n ei tharo hi yn y gwddf.”
Mae’r Aelod Seneddol Ceidwadol dros Lichfield, sydd yn ymwelydd cyson â Chymru, yn drydarwr brwd ac mae wedi cael ei feirniadu yn y gorffennol am ei sylwadau ar y wefan gymdeithasol.
Mae’r Ceidwadwyr nawr wedi mynnu fod Fabricant yn ymddiheuro’n syth am y sylwadau, gan eu disgrifio’n “annerbyniol”, ac mae hefyd wedi cael ei feirniadu gan Gloria De Piero, llefarydd Llafur ar ferched a chydraddoldeb.
Fe geisiodd Michael Fabricant wneud yn iawn am y sylwadau wrth drydar nifer o negeseuon, yn gyntaf yn mynnu na fyddai unrhyw un sydd yn ei adnabod yn credu y byddai’n gwneud y fath beth.
Fe aeth ymlaen i ddweud y byddai ef wedi bod yn “flin iawn” petai wedi bod yn esgidiau Rod Liddle, cyn ceisio ymddiheuro yn ei bedwerydd trydariad:
“Sori @y_alibhai os oeddet ti wir yn meddwl y byddwn i’n dy daro di. Dwi ddim yn gwneud y math yna o beth. Ond rwyt ti’n codi gwrychyn! xx”
“Stwffia fo”
Mewn ymateb, fe ddywedodd Yasmine Alibhai-Brown y gallai Fabricant “stwffio” ei ymddiheuriad.
“A dyma ei ymddiheuriad? Wel, geith o stwffio fo,” meddai wrth orsaf radio LBC.
“Dydw i ddim eisiau siarad gydag o.
“Fel Aelod Seneddol mae’n meddwl ei bod hi’n iawn dweud y byddai’n fy nharo yn y gwddf oherwydd nad oedd o’n hoffi beth ddywedais i wrth ddyn sy’n medru cymryd unrhyw beth, Rod Liddle, dydi o ddim yn gath fach.
“Dydi o heb ymddiheuro, dw i ddim yn galw hwn yn ymddiheuriad. Dyma fo’n trio dod allan o sefyllfa anodd ac mae’n gwneud pethau’n waeth.”
Mae Fabricant, sydd yn gyn chwip i’r Torïaid, wedi bod yn ddraenen yn ystlys ei blaid yn ddiweddar.
Cafodd y sac o’i swydd yn is-gadeirydd y Ceidwadwyr ym mis Ebrill ar ôl ei feirniadaeth gyhoeddus o’r cynllun rheilffordd HS2 a’r ffrae dros dreuliau Maria Miller.