Jeremy Paxman
Fe fydd y cyflwynydd Jeremy Paxman yn cyflwyno Newsnight am y tro olaf heno ar ôl 25 o flynyddoedd wrth y llyw.
Mae’r cyflwynydd eiconig a herfeiddiol yn un o brif gyflwynwyr y BBC.
Cyhoeddodd ei fwriad i roi’r gorau iddi ym mis Ebrill, gan ddweud ei fod e “am fynd i’r gwely’r un pryd â’r rhan fwyaf o bobol”.
Efallai ei fod yn fwyaf adnabyddus am ei ffordd unigryw o godi ael wrth amau ymateb ei westeion.
Mae Paxman wedi treulio’i yrfa gyfan yn gweithio i’r gorfforaeth.
Bu’n gyflwynydd radio a theledu ar hyd y blynyddoedd, ac yn gyflwynydd newyddion 6yh ar un adeg.
Mae’n awdur nifer o gyfrolau ar bynciau amrywiol o hanes Prydain yn Oes Fictoria i wleidyddiaeth a physgota.
Bydd yn parhau i gyflwyno University Challenge ar BBC2.