Phil Neville wedi dod dan y lach
Mae’r BBC wedi amddiffyn eu dewis o sylwebwyr ar gyfer Cwpan y Byd yn dilyn cwynion gan y cyhoedd ynglŷn â rhai ohonyn nhw.

Dywedodd y BBC bod angen i wylwyr “gymryd amser” i ddod i arfer a rhai o’r sylwebwyr.

Phil Neville, cyn chwaraewr gyda Manchester United ac Everton, sydd wedi denu’r rhan helaeth o’r feirniadaeth, gyda’r BBC yn derbyn 442 o gwynion yn dilyn sylwebaeth Neville o gêm Lloegr yn erbyn Yr Eidal nos Sadwrn.

Honno oedd y gêm gyntaf i Neville sylwebu arni fel cyd-sylwebydd, ac ymhlith y rhesymau dros y cwynion oedd ei ddiffyg emosiwn ac arddull undonog.

Yn ogystal â Neville, mae gwylwyr hefyd wedi beirniadu sylwadau Jonathan Pearce yn ystod gêm Ffrainc a Honduras, a chyn-chwaraewr Brasil Juninho am ei fod yn anodd ei ddeall ar brydiau.

Mae’r cwynion o ddiffyg eglurdeb hefyd wedi eu targedu at Fabio Cannavaro, cyn-gapten Yr Eidal sydd yn sylwebu ar gyfer ITV.

‘Sylwebwyr cryf a phrofiadol’

Mewn ymateb i’r cwynion, mae’r BBC wedi dweud mewn datganiad eu bod yn hapus â’u sylwebwyr.

“Rydym yn credu ein bod wedi dewis sylwebwyr rhyngwladol cryf,  profiadol sydd â gwybodaeth sy’n cwmpasu pob agwedd o’r gêm ar y lefel uchaf bosib.

“Mae ein holl gyfranwyr a sylwebwyr wedi’u penodi ar sail eu profiad, eu gwybodaeth a’u talent.

“Mae barn yn aml yn wrthrychol, fodd bynnag, ac ni fyddem yn disgwyl i bawb gytuno a phob dewis a wnawn, ac rydym yn gwerthfawrogi  y gall gymryd amser i wylwyr a gwrandawyr  ddod i arfer a steil unigolyn o sylwebu.”

Ar nodyn ysgafnach, mae gwerthwr gwresogyddion o’r enw Phil Neville o Suffolk wedi derbyn cwynion annisgwyl dros wefan Twitter dros y dyddiau diwethaf gan rai sydd wedi ei gamgymryd fel sylwebydd y BBC.