Mae’r heddlu wedi cau rhan o Brifysgol Newcastle unwaith eto mewn cysylltiad ag “eitemau amheus” gafodd eu darganfod yn gynharach yr wythnos hon.
Cafodd dau fyfyriwr 18 oed o Rwsia, sy’n astudio yn y brifysgol, eu harestio ar ôl i uned difa bomiau gael eu galw a chafodd dyfais ei ffrwydro dan reolaeth.
Dywedodd Heddlu Northumbria bore ma bod rhan o’r brifysgol wedi’i chau unwaith eto.
Yn ôl llefarydd ar ran yr heddlu “mae’n gysylltiedig â’r ymchwiliad gwreiddiol ym Mhrifysgol Newscastle.”