Mae disgwyl diswyddiadau sylweddol o fewn adran newyddion y BBC wrth i’r Gorfforaeth geisio arbed degau o filiynau o bunnoedd.

Cafodd staff wybod mewn e-bost gan gyfarwyddwr newyddion a materion cyfoes y BBC, James Harding am y cynllun.

Mae disgwyl i’r manylion gael eu cyhoeddi’n derfynol ym mis Gorffennaf.

Yn ôl adroddiadau, gallai rhwng 500 a 600 o swyddi gael eu colli ond mae Golwg360 wedi cael ar ddeall na fydd yn effeithio ar Gymru.

Mae undeb yr NUJ wedi beirniadu’r cynllun, gan ddweud bod rhoi staff o dan ragor o straen yn “hollol annerbyniol”.

Mae disgwyl iddyn nhw ystyried a fyddan nhw’n cynnal streic yn erbyn cynlluniau’r BBC.

Dywedodd llefarydd: “Pe bai cyflogau uwch swyddogion yn cael cap o £150,000 – sy’n gyflog enfawr i unrhyw un, ac yn fwy na digon i’r prif weinidog – byddai arbedion blynyddol ar unwaith o £20 miliwn yn cael ei wneud, a allai fynd yn syth i greu rhaglenni o safon.”