Kizzy Crawford
Mae Kizzy Crawford, y ferch 18 oed o Ferthyr Tudful, wedi cyhoeddi ar trydar y bydd hi’n chware yng Ngŵyl Glanstonbury eleni.
Fe roddodd Kizzy Crawford sylw ar ei chyfrif trydar ddoe yn dweud: “Heno, mae gen i newyddion cyffrous iawn i’w gyhoeddi!!!”
Ac o fewn da bryd, roedd wedi cyhoeddi ar raglen Radio 1 Huw Stephens ei bod hi’n mynd i fod yn ymddangos ar lwyfan y BBC Introducing Stage yr ŵyl – sy’n cael ei gyfrif fel un o brif ddigwyddiadau cerddorol y byd.
Mae’r Gymraes hefyd yn rhan o raglen Gorwelion BBC Cymru ac fe fydd hi ymhlith yr artistiaid Cymraeg fydd yn perfformio yng Ngwyl Rhif 6 ym Mhortmeirion yr haf hwn.
Fe enillodd gystadleuaeth Brwydr Y Bandiau yn Eisteddfod Genedlaethol 2013, ac mae hi wedi chwarae yng ngŵyl WOMEX, Gŵyl Sŵn, Cynhadledd Plaid Cymru yn ogystal â chefnogi Newton Faulkner ar ei ddyddiadau Cymraeg o’i daith.
Yn y gorffennol, mae’r BBC Introducing Stage wedi cefnogi artistiaid fel Florence and the Machine, The Temper Trap, Marina and the Diamonds, Rizzle Kicks a Jake Bugg.