Y gân Another Star gan Stevie Wonder sydd wedi cael ei dewis fel anthem darllediadau’r BBC o gemau Cwpan y Byd ym Mrasil y mis nesaf.

Cafodd y gân ei rhyddhau gyntaf fel rhan o albwm Stevie Wonder, Songs In The Key Of Life, yn 1976 a bydd yn cael ei chwarae fel y gerddoriaeth agoriadol i raglenni’r BBC.

Dyma’r tro cyntaf i Stevie Wonder, sy’n enwog am ganeuon eraill fel Sir Duke ac I just called to say I love you, ganiatáu i’w gerddoriaeth gael ei ddefnyddio mewn modd tebyg i hyn.

“Mae’r gân yma’n berffaith ar gyfer yr atmosffer garnifal-aidd yr ydym yn gobeithio ei roi i’n gwylwyr yr haf hwn,” meddai Ian Finch, sydd â chyfrifoldeb dros y gerddoriaeth mewn rhaglenni chwaraeon y BBC.

“Mae hi’n beth prin i artist o enwogrwydd Stevie Wonder i adael i’w gerddoriaeth gael ei ddefnyddio yn y modd yma ac rydym ni’n ei weld fel braint.”