Mae 200 o hediadau wedi eu heffeithio gan benderfyniad gweithwyr Aer Lingus i fynd ar streic y penwythnos hwn – penwythnos gwyl y banc yn Iwerddon.

Mae gweithwyr caban yn picedu mewn tri o brif feysydd awyr y cwmni – Dulyn, Corc a Shannon – ac mae’r gweithredu wedi golygu fod y rhan fwya’ o awyrennau’r cwmni yn methu codi oddi ar y ddaear. Mae’r gweithredu hefyd yn mynd i gostio tua 10m ewro (£8.1m).

Mae rheolwyr a gweithwyr yn methu â chytuno ar oriau gwaith, gydag undeb llafur Impact yn cwyno fod aelodau’n cael eu blino’n lân gan amserlennu blêr.

Mae Aer Lingus, ar y llaw arall, yn dweud nad oes rheswm i weithwyr weithredu’n ddiwydiannol, ac mae’n cyhuddo’r gweithwyr caban o yrru cwsmeriaid at gwmnïau eraill.