Mae dau o bobol wedi cael eu harestio ar amheuaeth o lofruddiaeth, yn dilyn marwolaeth merch blwydd oed.

Fe gafodd heddlu eu galw i Ysbyty St Pedr yn Chertsey, Surrey, wedi i ferch fach gael ei chludo yno ddydd Mercher yn diodde’ o anafiadau difrifol.

Fe gafodd y ferch ei symud yn ddiweddarach i Ysbyty St Siôr yn Tooting, lle bu farw brynhawn ddoe.

Fe fydd prawf post-mortem yn cael ei gynnal ar y corff er mwyn penderfynu achos y farwolaeth.

Yn y cyfamser, mae dyn 35 oed a gwraig 24 oed wedi eu harestio ar amheuaeth o lofruddio, achosi niwed corfforol difrifol, ac o amddifadu plentyn. Mae’r ddau yn parhau yn y ddalfa.