Mae llyfr newydd yn herio’r syniad mai yng Nghilmeri y lladdwyd Llywelyn Ein Llyw Olaf yn 1282.
Yn ôl John Hughes, mae rheswm i gredu fod Llywelyn ap Gruffudd wedi’i ladd “mewn lle a elwir aber Edwy”, yn hytrach nac ar lan afon Irfon. Mae pentre’ o’r enw Aberedw bedair milltir i’r gogledd Lanfair-ym-Muallt heddiw, ac mae yno le o’r enw ‘Ogof Llywelyn’ wedi’i marcio’n glir ar fapiau hyd heddiw.
Yn ei nofel, Llywelyn, dywed John Hughes, cyn-brifathro Ysgol Uwchradd Llanidloes, ei fod wedi dibynnu ar dystiolaeth o’r 15fed ganrif “yn hytrach na dibynnu ar air haneswyr Saesneg” o gyfnod Llywelyn ei hun.
“Mae cerdd o’r 15fed ganrif yn awgrymu bod Llywelyn wedi’i ladd ‘mewn lle a elwir aber Edwy’ ar ôl ymweld â dynes,” meddai.
“Brut y Tywysogion yw un o’r ffynonellau pwysicaf am hanes Cymru, a dw i wedi fy ysbrydoli gan y traddodiad Cymraeg – yn hytrach na dibynnu ar air haneswyr Saesneg o’r cyfnod.”
O safbwynt merch
Mae’r nofel yn adrodd hynt a helynt pum mlynedd olaf bywyd Llywelyn trwy lygaid merch, am fod John Hughes yn credu nad oes digon o sôn am ferched yn hanes Cymru.
“Mae yna brinder enfawr o hanes menywod yn hanes Cymru, yn enwedig felly o’r oesoedd canol. “Fedra i ddim yn fy myw â derbyn bod hyn yn adlewyrchiad cywir o’r cyfnod – roedd gan fenywod ran bwysig i’w chwarae yn hanes Cymru, ond rywsut rydyn ni wedi colli hanes eu cyfraniad.
“Yn debyg i fy nofel gyntaf, Glyndŵr’s Daughter, mae Llywelyn yn ceisio dangos dylanwad menywod ar hanes Cymru er gwaetha’r ffaith ein bod wedi colli cynifer o hanesion cymeriadau benywaidd cyf, dylanwadol a beiddgar yr oesoedd canol.”
Gwasg Y Lolfa sy’n cyhoeddi’r nofel.