Dafydd Iwan
Fe fydd Dafydd Iwan yn cyflwyno ei gitâr gyntaf i Archif Bop Prifysgol Bangor ar faes Eisteddfod yr Urdd yn y Bala heddiw – dafliad carreg o’r lle y dechreuodd berfformio gynta’ erioed.
Pan oedd o’n swog yng ngwersyll Glan Llyn ger Llanuwchllyn wnaeth Dafydd Iwan ddysgu chwarae cordiau ar y gitâr am y tro cyntaf, ac yna mynd ati i ganu caneuon syml i gyfeiliant yr offeryn.
Fe aeth ymlaen i gyfansoddi 250 o ganeuon gwleidyddol ac ysgafn, sawl un am frwydr Cymdeithas yr Iaith, a dyma’r gitâr y defnyddiodd ar rai o’i ganeuon protest cynharaf yn y 1960au.
Yr Archif
Cafodd Archif Bop Ysgol Gerdd Prifysgol Bangor ei sefydlu yn 2008 i ddiogelu pob math o eitemau sy’n ymwneud â hanes cerddoriaeth boblogaidd Gymraeg.
Fe fydd Dafydd Iwan yn cyflwyno’r gitâr ar stondin Prifysgol Bangor yn Eisteddfod Yr Urdd am 2 o’r gloch bnawn heddiw.