Sara Davies
Fe fydd criw o drigolion cylch Caerffili yn perfformio cyflwyniad ar lwyfan Eisteddfod yr Urdd Meirionydd y prynhawn yma er mwyn croesawu’r ŵyl i’w sir nhw yn 2015.

Mae’r gwaith o ddechrau trefnu’r eisteddfod yno wedi dechrau’n barod, o dan arweiniad Sara Davies, Cadeirydd y Pwyllgor Gwaith.

Hen blasty ar stad Llancaiach Fawr yn Nelson, Caerffili, fydd yn croesawu Eisteddfod yr Urdd 2015.

Gyda’r ŵyl heb fod yn yr ardal ers 1933, fe ddywedodd Sara Davies y byddai’r cyflwyniad ar y llwyfan heddiw yn rhoi cyfle gwych i Gaerffili ddangos beth sydd ganddyn nhw i’w gynnig.

Gwyliwch y sgwrs â Sara Davies isod: