Carwyn Jones ar y maes heddiw
Fe wnaeth rhai o brotestwyr Cymdeithas yr Iaith darfu ar y Prif Weinidog Carwyn Jones ar faes Eisteddfod yr Urdd heddiw yn galw arno i ‘ddeffro’ ynglŷn â sefyllfa’r Gymraeg.

Bu Carwyn Jones yn ymweld â maes yr Urdd heddiw gan gyfrannu i sesiwn holi ac ateb a drefnwyd gan chriw teledu Hacio.

Wedi’r sesiwn fe aeth draw i stondin Cyngor Gwynedd, ble darfodd criw Cymdeithas yr Iaith Gymraeg ar ei ymweliad – gan barhau ar brotest ‘deffro Carwyn!’.

Dyma glip o’r digwyddiad:

Roedd y Prif Weinidog yn stondin S4C am hanner dydd yn cael ei holi gan Catrin Haf Jones o raglen Hacio ynglŷn a chystadleuaeth newyddiadurol newydd ar gyfer Eisteddfod yr Urdd.

Dywedodd Carwyn Jones ei bod hi’n “bwysig cael cyfryngau Cymraeg cryf” ac y byddai cystadlaethau fel hyn yn cynorthwyo hynny.

Cyfaddedfodd wrth y gynulleidfa ifanc nad oedd yn rhy hodd o wynebu’r cwestiynau anodd – “Na, ond mae’n rhaid neud e!”, meddwi wrthynt.

Ond fe ddywedodd bod cael newyddiaduraeth broffesiynol gryf dal yn bwysig yn oes y cyfryngau cymdeithasol, gan fod “rhaid cael y bobl yna i gyflwyno a dehongli” y newyddion.

Ond wrth iddo groesi’r maes wedyn i ymweld â stondin Cyngor Gwynedd daeth aelodau Cymdeithas yr Iaith draw ato a tarfu arno, gan alw ar y Prif Weinidog i ‘ddeffro’ yn dilyn canlyniadau Cyfrifiad 2011.

Anwybyddu’r protestwyr wnaeth Carwyn Jones, cyn mynd i mewn i’r stondin.