Mae aelodau o Fwrdd Ieuenctid yr Urdd wedi cwrdd â Jeff Cuthbert AC, y Gweinidog dros Gymunedau a Thaclo Tlodi, ar faes yr Eisteddfod heddiw – i drafod y math o Gymru yr hoffen nhw ei  weld erbyn 2050.

Mae’ drafodaeth yn rhan o’r ‘Sgwrs Genedlaethol’, sy’n ceisio adeiladu consensws ar beth sydd bwysicaf i drigolion Cymru, a chasglu gwybodaeth am sut y maen nhw’n rhagweld y dyfodol i’r cenedlaethau nesaf.

Bydd yr ymatebion yn bwydo mewn i’r Bil Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) arfaethedig, a ddylai ddod yn ddeddf y flwyddyn nesaf.

Daw aelodau Bwrdd Ieuenctid yr Urdd, Bwrdd Syr IfanC, o bob cwr o Gymru ac maen nhw i gyd rhwng 15 a 25 oed. Maen nhw’n cwrdd yn rheolaidd drwy gydol y flwyddyn i drafod materion ac i gynghori rheolwyr yr Urdd ar ddarpar ddigwyddiadau a mentrau.

‘Yr ifanc fydd yn elwa’

“Mae barn pobol ifanc yn allweddol i’r drafodaeth, gan mai nhw, eu plant, eu wyrion ac wyresau, fydd yn elwa os gallwn wneud hyn yn iawn”, meddai Jeff Cuthbert.

“Mae aelodaeth yr Urdd wedi ei wasgaru’n eang ar draws Cymru a gall barn eu haelodau gynnig darlun manwl o’r hyn sydd yn effeithio bobol ifanc heddiw a be allwn ni ei wneud i wella hyn yn y dyfodol.”

Llais

Cadeirydd Bwrdd Ieuenctid yr Urdd yw Jacob Elis ac mae’n credu y gall barn y grŵp wneud cyfraniad sylweddol wrth ystyried dyfodol Cymru:

“Rydym ni wedi cael cyfle yn y gorffennol i drafod ein syniadau gyda’r Prif Weinidog ac ry’n ni’n gwerthfawrogi’r cyfle hwn i gyfrannu ein syniadau a’n hawgrymiadau ar sut yr hoffem ni weld Cymru yn datblygu dros y blynyddoedd nesaf.

“Fel yr oeddwn yn disgwyl doedd dim prinder syniadau!”