Mae prisiau tai wedi cynyddu bron i 9% ar draws Cymru a Lloegr yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, yn ôl y ffigyrau diweddaraf.

Mae’n golygu fod pris cyfartalog am dŷ yn £272,003 – sy’n gynnydd o 3.6%, neu £9,409,  bob mis ers mis Mai’r llynedd.

Mae pris tŷ yn Llundain wedi codi bron i £80,000, sy’n £4,405 yr wythnos, tra bod gweddill Lloegr a Chymru wedi gweld cynnydd o £1,521 yr wythnos.

Fe ddaw hyn wrth i ddirprwy reolwr Banc Lloegr, Syr Jon Cunliffe, rybuddio y gall y cynnydd mewn prisiau tai effeithio adferiad economi Prydain.

Yn ogystal, mae’r Sefydliad ar gyfer Cydweithio a Datblygiad Economaidd yn galw am atal cynlluniau gan y Llywodraeth sy’n rhoi cymorth i brynwyr newydd, er mwyn lleddfu’r ymchwydd mewn prisiau yn y farchnad dai.