Aled Siôn Davies
Mae enwau’r unigolion sydd wedi gwneud cyfraniad “arbennig” i Gymru ac a fydd yn cael eu derbyn i’r Orsedd yn Eisteddfod Genedlaethol Sir Gâr eleni wedi cael eu cyhoeddi heddiw.
Ymysg yr wynebau cyfarwydd sy’n derbyn yr anrhydedd mae’r athletwr Paralympaidd, Aled Siôn Davies, y chwaraewr rygbi Stephen Jones, y darlledwr, Arfon Haines Davies, Cyfarwyddwr Merched y Wawr, Tegwen Morris, a Gwilym a Megan Tudur, ymgyrchwyr dros yr iaith a pherchnogion Siop y Pethe, Aberystwyth.
Mae’r anrhydeddau blynyddol yn gyfle i roi clod i unigolion o bob rhan o’r wlad am eu cyfraniad arbennig i Gymru, y Gymraeg ac i’w cymunedau lleol ar hyd a lled Cymru.
Rhai o’r enwau eraill fydd yn derbyn y Wisg Las yw Duncan Brown o’r Waunfawr a’r Athro Helmut Birkan – sylfaenydd Astudiaethau Celtaidd ym Mhrifysgol Fienna. Bydd Megan Williams o Drefor a Geoffrey Thomas – Cadeirydd Cyngor Prifysgol y Drindod Dewi Sant yn derbyn y Wisg Werdd.
Y drefn
Mae pob aelod newydd yn dod yn aelod ar yr un gwastad, sef fel Derwydd. Mae pob person sy’n derbyn aelodaeth trwy anrhydedd Yr Orsedd yn cael eu derbyn un ai i’r Wisg Werdd, neu’r Wisg Las, yn ddibynnol ar faes eu harbenigedd.
Mae’r rheini sydd yn amlwg ym myd y Gyfraith, Gwyddoniaeth, Chwaraeon, Newyddiaduriaeth, y Cyfryngau, gweithgaredd bro neu genedl yn derbyn Urdd Derwydd – Y Wisg Las am eu gwasanaeth i’r genedl.
Mae’r Orsedd hefyd yn urddo aelodau newydd i’r Wisg Werdd am eu cyfraniad i’r Celfyddydau. Bydd y rheini sydd wedi sefyll arholiad neu sydd â gradd gymwys ym maes Llenyddiaeth, Cerddoriaeth, Drama neu Gelf, hefyd yn derbyn y Wisg Werdd, yn ogystal ag enillydd Gwobr Goffa Osborne Roberts bob blwyddyn ac enillwyr Cadair a Choron Eisteddfod yr Urdd.
Dim ond enillwyr prif wobrau’r Eisteddfod Genedlaethol sy’n cael eu hurddo i’r Wisg Wen.