Behnaz Akhgar y ferch dywydd
Mae’r cyn-chwaraewr pêl-droed Neville Southall, y canwr sioeau cerdd John Owen Jones a’r actores Sian Reeves ymysg y rhai sydd wedi derbyn yr her i ddysgu Cymraeg mewn wythnos ar raglen Cariad@Iaith.
Yr enwogion eraill fydd yn cymryd rhan yn y rhaglenni ar S4C fydd Suzanne Packer, Sam Evans, Jenna Jonathan, Behnaz Akhgar ac Ian ‘H’ o’r band Steps.
Bydd y criw yn aros yng Nghanolfan Breswyl Cymraeg i Oedolion, Nant Gwrtheyrn yn Llithfaen ger Pwllheli am wythnos ac fe fydden nhw’n mynychu gwersi Cymraeg dyddiol gyda’r tiwtoriaid Nia Parry ac Ioan Talfryn.
Bydd y rhaglen yn cael ei darlledu bob noson o 16 Mehefin hyd at 20 Mehefin am 8.30yh a 9.25yh, gyda’r ffeinal nos Sadwrn 21 Mehefin am 8.00yh.
‘Criw eclectig’
“Ry’n ni wrth ein boddau bod yr wyth yma wedi cytuno i gymryd rhan – maen nhw’n gasgliad eclectig a dweud y lleiaf,” Meddai Sioned Wyn Roberts, Comisiynydd Cynnwys S4C.
“Maen nhw’n dod o bob math o gefndiroedd gwahanol ac yn enwog mewn meysydd gwahanol iawn i’w gilydd.
“Ry’n ni’n siŵr y bydd llawer o hwyl lawr yn y Nant efo’r criw yma wrth iddyn nhw fynd ati i ddysgu Cymraeg ac ysbrydoli eraill i roi cynnig arni.”