Fe allai’r bleidlais Seisnig fod yn hanfodol yn refferendwm annibyniaeth yr Alban wrth i bôl piniwn awgrymu bod mwyafrif y Saeson sy’n byw yno yn mynd i bleidleisio Na.

Mewn pôl gan Panelbase ar gyfer y Sunday Times a Heart Radio, dywedodd 66% o Saeson y byddan nhw’n pleidleisio Na.

Dywedodd 42% o Albanwyr y byddan nhw’n pleidleisio Na, tra bod 44% o Albanwyr wedi dweud eu bod o blaid annibyniaeth.

Dim ond 27% o Saeson sydd yn byw yn yr Alban oedd yn bwriadu cefnogi annibyniaeth, medd pôl Panelbase.

Mae tua 400,000 o Saeson yn byw yn yr Alban ac fe allai eu pleidleisiau nhw fod yn hanfodol wrth i’r polau awgrymu y bydd refferendwm mis Medi yn un clòs.

Pleidlais Ie ‘o fewn cyrraedd’?

Dywed ymgyrch Yes Scotland fod y gefnogaeth i annibyniaeth wedi bod yn cynyddu’n raddol ers cyhoeddi papur gwyn llywodraeth Holyrood, ond mae pôl piniwn arall heddiw, gan ICM, yn awgrymu fod y gefnogaeth ar ei hisaf ers mis Medi.

Yn ôl pôl ICM ar gyfer Scotland on Sunday dim ond 34% oedd o blaid annibyniaeth, sef lleihad o bum pwynt canran ers pôl diwethaf ICM ym mis Ebrill. Cynyddodd y gefnogaeth i’r bleidlais Na gan bedwar pwynt, i 46%, medd pôl piniwn ICM.

Dywed Yes Scotland for yr holl bolau yn awgrymu fod “pleidlais Ie o fewn cyrraedd.”

“Mae na ffordd hir i fynd a llawer o waith caled i wneud,” meddai Blair Jenkins, prif weithredwr Yes Scotland.

“Rydym ni’n edrych ymlaen at hynny. Rydym ni’n hyderus, wrth i fwy a mwy o bobol ymdrin â’r ddadl, y byddan nhw’n gweld trwy negatifrwydd yr ymgyrch Na ac yn ceisio am fwy o wybodaeth go iawn ar yr hyn y bydd annibyniaeth yn ei olygu iddyn nhw.”